P-05-1000 Ei gwneud yn orfodol i hanesion pobl dduon a POC y DU gael eu haddysgu yng nghwricwlwm addysg Cymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Angharad Owen, ar ôl casglu cyfanswm o 34,736 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae Prydain - gan gynnwys Cymru - wedi elwa o wladychiaeth a chaethwasiaeth am ganrifoedd. Mae angen i hyn gael ei gynrychioli yn y cwricwlwm.
Yn aml iawn, mae'r Ymerodraeth Brydeinig yn cael ei mawrygu, ac effaith fyd-eang gwladychiaeth Prydain yn cael ei thanbrisio. Adlewyrchwyd hyn yn y cynnwys a addysgir.
Mae angen newid gwirioneddol a sylweddol. Mae gwaddol caethwasiaeth a gwladychiaeth yn cael effaith wirioneddol ar gymunedau Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig ledled Prydain heddiw, ac mae angen i system addysg Cymru gydnabod hyn.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· De Clwyd
· Gogledd Cymru